Dysgu Trwy Chwarae
Learning Through Play
Mae’r Cyfnod Sylfaen wedi ei selio ar egwyddorion o ddysgu trwy chwarae ac mae’n rhan hollbwysig o’r cwricwlwm. Mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu trwy chwarae yn adnodd pwerus sydd yn galluogi cynnydd ym mhob ardal o ddatblygiad plant.
Mae’r Cylch yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn defnyddio’r dull trochi iaith. Rydym yn gweithio gyda rhieni, gwarchodwyr a’r gweithwyr proffesiynnol addas lle bod angen, er mwyn asesu anghenion bob plentyn i sicrhau bod ein cyfleusterau ac adnoddau yn addas ar gyfer eu datblygiad.
Rydym yn defnyddio system chwarae a arweinir gan blant ac yn cyflwyno gwahanol adnoddau ar gyfer hyn, sydd yn annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg a bod yn greadigol. Mae’r plant yn cael datrys problemau ac asesu risg sydd yn datblygu eu hyder. Defnyddiwn chwarae hydrin, chwarae rôl, adnoddau mathemategol, ac arbrofi gyda thechnoleg; mae cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp megis amser stori, canu a dawnsio yn rhan o’r ddarpariaeth.
​
Cyfrifoldeb ein staff profiadol, cymwys yw sicrhau bod y plant yn derbyn gofal a sylw addas er mwyn llwyddo i gyrraedd eu llawn botensial. Mae pob plentyn unigol yn cael ei ystyried yn eu datblygiad cymdeithasol, dysgu a chwarae er mwyn cwrdd â’u anghenion.
​
The Foundation Phase is based on the principles of learning through play which is an essential ingredient in the curriculum. Evidence has shown that learning through play is a powerful tool which can support all areas of child development.
The Cylch operates through the medium of Welsh and implements the language immersion method. We work together with parents, guardians and the relevant professionals where necessary, to assess the needs of each child to ensure that our facilities and resources are appropriate to their developmental stages.
We introduce many different resources for child led play which encourages the children to use their imagination and be creative. Also children are allowed to problem solve and assess risks which develops their confidence. We use malleable play, role play, mathematical resources, and experiment with technology; group activities such as story time, singing and dancing are a part of the provision.
​
Our qualified and experienced staff are responsible for ensuring that the children receive appropriate care and attention so that they may reach their full potential. Each individual child is considered in their socialising, learning and play development to ensure their needs are met.
​
​